Yn ôl i Chwilio
Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18/09/2019 i'w hateb ar 25/09/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
Y Gweinidog Addysg
1
OAQ54370
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ba mor effeithiol yw addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion?
2
OAQ54368
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 yn cael mynediad at gyrsiau galwedigaethol?
3
OAQ54392
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fforddiadwyedd gwisgoedd ysgol yng Nghymru?
4
OAQ54375
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi ysgolion gwledig Llywodraeth Cymru?
5
OAQ54367
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chonsortia gwella ysgolion Cymru?
6
OAQ54353
Tynnwyd yn ôl
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysgu esblygiad yn ysgolion Cymru?
7
OAQ54383
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r amserlenni sy'n gysylltiedig â gweithredu'r system anghenion dysgu ychwanegol?
8
OAQ54362
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno asesiadau personol ar-lein i ddysgwyr ac ysgolion?
9
OAQ54365
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant mewn ysgolion, sydd â'u teuluoedd yn y lluoedd?
10
OAQ54386
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg yng Nghymru?
11
OAQ54379
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael mewn perthynas â chyfraniad Sony UK ym Mhencoed i ddatblygu sgiliau codio mewn ysgolion ar draws de Cymru?
12
OAQ54371
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau addysg ym Mhowys?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1
OAQ54385
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros am ddiagnosis ar ôl i'r GIG ganfod amheuaeth o ganser?
2
OAQ54374
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran nifer y bobl y bydd penderfyniad y GIG yng Nghymru yn effeithio arnynt, i ddilyn y dull a gymerwyd gan y GIG yn Lloegr a chael gwared ar eitemau y barnwyd eu bod yn flaenoriaeth glinigol isel o'r rhestr o driniaethau rhagnodadwy?
3
OAQ54384
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadw staff yn y GIG yng Nghymru?
4
OAQ54387
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau marwolaethau oherwydd canser yng ngogledd Cymru?
5
OAQ54393
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol yng Nghymru?
6
OAQ54359
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno'r gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf?
7
OAQ54389
(w)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau marwolaethau sy’n gysylltiedig a chamddefnyddio cyffuriau ym Môn?
8
OAQ54380
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith traws-lywodraethol sy'n ystyried ardoll gofal cymdeithasol?
9
OAQ54377
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol llawfeddygaeth frys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg?
10
OAQ54382
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i recriwtio a chadw meddygon teulu yn Islwyn?
11
OAQ54373
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau rhestrau aros ysbytai yng Ngorllewin De Cymru?
12
OAQ54369
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2019
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i bobl sy'n byw gyda dementia yn eu cartref?