Bethan Sayed AC

Cadeirydd

Y Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

22 Mai 2019

 

Annwyl Bethan

 

Sylwadau Cymdeithas yr iaith Gymraeg ar Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol           (y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol)

 

Diolch am y gwahoddiad i gynnig sylwadau ar y rheoliadau uchod sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru ar ddarparwyr gofal sylfaenol annibynnol, gan gynnwys meddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr ac optegwyr, a fydd yn dod i rym ar 30 Mai 2019. Fel y gwyddoch, mae’r sector gofal sylfaenol yn gyfrifol am hyd at naw deg y cant o brofiadau cleifion yn y gwasanaeth iechyd ac, yn wir, y man cychwyn i’r rhan fwyaf ar eu taith ar hyd y llwybr gofal.  Am hynny, wrth ystyried yr angen i gynllunio a darparu gwasanaethau trwy'r Gymraeg, mae’n amlwg fod gofal sylfaenol yn haeddu’r brif flaenoriaeth. Yn sgil eithrio darparwyrgofal sylfaenol annibynnol o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Sector Iechyd), mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn awyddus i sicrhau fod y dyletswyddau Cymraeg a osodir drwy gontract gyda darparwyr gofal sylfaenol yn adlewyrchu’r flaenoriaeth hon, gan warchod i’r eithaf hawliau iaith a buddiannau cleifion.

 

Cyn trafod y cynnwys, rydym yn datgan yn gyhoeddus ein bod yn anfodlon gyda’r modd yr aethpwyd ati i lunio’r rheoliadau; a’r broses ymgynghori ar y canllawiau hyn, gan nodi’r pryderon penodol a ganlyn:

·         Oedi afresymol wrth lunio’r rheoliadau yn y lle cyntaf

·         Amserlen afresymol ar gyfer yr ymgynghoriad

·         Proses ymgynghori cyfyngedig sydd heb gynnwys barn defnyddwyr gwasanaeth

·         Diffyg papurau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg

 

Dylai’r Llywodraeth fod yn ymwybodol o farn gref Aelodau'r Cynulliad ar y rheoliadau, fel y nodwyd yn adroddiad trawsbleidiol y Pwyllgor Diwylliant ynghylch Safonau'r Gymraeg ym mis Mawrth 2018 (Rhif 7)1.  Fodd bynnag, nid yw’n ymddangos bod y Llywodraeth wedi gwrando ar farn y pwyllgor. Dywed adroddiad y pwyllgor bryd hynny:

 

Un o’r pryderon mwyaf sydd gennym ynghylch y Rheoliadau yw diffyg unrhyw hawl i gael gwasanaethau clinigol wyneb yn wyneb yn Gymraeg neu gyda chymorth Cymraeg ... dylai’r hawl i gael gwasanaeth yn eich iaith o ddewis fod yn egwyddor sefydledig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru,... Mewn sawl ffordd, y Gwasanaeth Iechyd yw’r gwasanaeth cyhoeddus pwysicaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio. Mae’r syniad na ddylai’r egwyddor sylfaenol hon fod yn gymwys i’r Gwasanaeth Iechyd hefyd, yn ein barn ni, yn annerbyniol."1

 

O ystyried mai gwasanaethau gofal sylfaenol yw un o’r gwasanaethau a ddefnyddir amlaf gan y cyhoedd, mae’n amlwg yn faes sy’n peri pryder. ... Nodwn fod y Llywodraeth yn cynnig gosod ‘nifer fach o ddyletswyddau Cymraeg’ ar ddarparwyr gofal sylfaenol annibynnol gan ddefnyddio’r contract gofal sylfaenol. Bydd hyn yn creu rhwymedigaethau cytundebol rhwng y Bwrdd Iechyd Lleol a’r darparwr annibynnol a orfodir gan y Bwrdd Iechyd Lleol. Rydym yn croesawu’r dull hwn ond, heb wybod beth fyddai’r dyletswyddau, bydd yn anodd gwybod p’un a fyddant yn ddigonol i annog gwelliannau gwirioneddol mewn gwasanaethau Cymraeg.”1

 

Fel Grŵp Iechyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, rydym wedi craffu ar y rheoliadau a’r memorandwm sy’n gosod chwe dyletswydd gyffredin, sy’n ymwneud â’r Gymraeg, ar ddarparwyr gofal sylfaenol yng Nghymru drwy eu priod delerau cytundeb, contract a / neu wasanaeth â byrddau iechyd lleol. Yn sgil ein trafodaethau, rydym wedi dod i’r casgliad bod y rheoliadau yn llawer rhy wan i annog gwelliannau gwirioneddol mewn gwasanaethau Cymraeg.

 

Wedi i ni ofyn am gyfarfod gyda’r Llywodraeth, cawsom gyfle i drafod ein pryderon gyda Sioned Rees, Prif Swyddog, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac roeddem yn falch o gael derbyn gwahoddiad i ddiwygio’r geiriad. Fodd bynnag, ofer bu’r ymdrechion hyn oherwydd ein bod ar ddeall fod y pedwar corff cynrychiadol bellach wedi cytuno’r chwe dyletswydd wreiddiol ac nad oedd yr  amserlen yn caniatáu newidiadau pellach. Am hynny, rydym yn galw ar aelodau’r Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu i gyflwyno’r diwygiadau a welir isod mewn llythrennau bras, gan nodi’r rhesymeg a gyflwynir yn y tabl; ynghyd â’r dystiolaeth a gyflwynir yn yr atodiad ynghlwm.

 

Rhif

Rheoliadau

Diwygiadau CYIG

Rhesymeg CYIG

1

Darparu gwybodaeth i'r Bwrdd Iechyd Lleol am y gwasanaethau gofal sylfaenol mae'r contractwr yn gallu eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg

Darparu gwybodaeth i'r Bwrdd Iechyd Lleol am y gwasanaethau gofal sylfaenol mae'r contractwr yn gallu eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg; gan rannu’r wybodaeth honno gyda chleifion ac aelodau’r cyhoedd ar wefan y contractwr ac wrth arddangos arwyddion a hysbysiadau

Mae gosod y claf yn ganolog wrth ddarparu gofal yn egwyddor sy’n sail gadarn i bolisïau iechyd Cymru. Mae rhannu gwybodaeth gyda chleifion am y gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael yn adlewyrchu’r egwyddor hon a phrif amcanion Mesur y Gymraeg 2011.

2

Rhoi ar gael i gleifion ac aelodau o'r cyhoedd unrhyw fersiwn Gymraeg o’r ddogfen a ffurflenni a ddarperir i'r contractwr gan y Bwrdd Iechyd Lleol

Darparu’n rhagweithiol pob dogfen a ffurflen ar gyfer y cyhoedd a/neu gleifion yn Gymraeg, gan sicrhau nad yw’r fersiwn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na’r Saesneg, gan gynnwys bod y ddogfennaeth Gymraeg ar gael ar yr un pryd, ac yr un mor hwylus, ag unrhyw fersiwn Saesneg.

Mae Mesur y Gymraeg 2011 yn pwysleisio na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru. Mae’r diwygiadau yn nodi goblygiadau hyn ar gontractwyr wrth iddynt rannu dogfennau gyda chleifion ac aelodau’r cyhoedd.

3

Arddangos y testun trwy’r Saesneg a’r Gymraeg ar unrhyw arwydd neu hysbysiad newydd sy'n ymwneud â'r gwasanaeth a ddarperir

Arddangos yn Gymraeg unrhyw arwydd, hysbysiad, peiriant, gwefan, neu unrhyw ffordd arall o ddarparu gwybodaeth sy'n ymwneud â'r gwasanaeth a ddarperir (mewn ffordd nad yw’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg), gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, arwyddion, hysbysiadau, tudalennau gwe, systemau ar-lein, systemau rhyngweithiol a pheiriannau hunanwasanaeth

Mae ymrwymo i  ddarparu gwasanaethau Cymraeg yn golygu llawer mwy na pharatoi  arwyddion a hysbysiadau dwyieithog. Dengys y diwygiadau ystod y cyfleoedd sydd ar gael o ran darparu gwybodaeth ddwyieithog i gleifion.

4

Annog eu staff sy’n siarad Cymraeg i wisgo bathodyn a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol sydd yn  cyfleu bod y sawl sy'n ei wisgo yn gallu siarad Cymraeg

Annog eu staff sy’n siarad Cymraeg i wisgo bathodyn / llinyn a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol sydd yn  cyfleu bod y sawl sy'n ei wisgo yn gallu siarad Cymraeg neu yn dysgu Cymraeg; a rhannu’r wybodaeth honno gyda chleifion ac aelodau’r cyhoedd ar  wefan y contractwr ac wrth arddangos  arwyddion a hysbysiadau

Mae Swyddfa’r Comisiynydd yn paratoi ystod o adnoddau ‘Iaith Gwaith’ sy’n cynnwys llinynnau yn ogystal â bathodynnau. Ceir, yn ogystal llinynnau ‘Dysgwyr’. Byddai hysbysu cleifion ac aelodau’r cyhoedd am y siaradwyr Cymraeg ymhlith darparwyr yn eu galluogi i baratoi ar gyfer ddefnyddio’r Gymraeg wrth gael mynediad at wasanaethau.

5

Annog y rhai sy'n darparu gwasanaethau i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynychu cyrsiau a digwyddiadau hyfforddi a ddarperir gan y BILl, fel y gallent ddatblygu ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth o'i hanes a'i rôl yn niwylliant Cymru) a dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio'r Gymraeg wrth gyflwyno gwasanaethau.

Rhyddhau'r rhai sy'n darparu gwasanaethau i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynychu cyrsiau a digwyddiadau hyfforddi a ddarperir gan y BILl, fel y gallent ddatblygu ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth o'i hanes a'i rôl yn niwylliant Cymru); dysgu Cymraeg, neu loywi eu Cymraeg  a datblygu dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio'r Gymraeg wrth gyflwyno gwasanaethau.

Cafwyd sawl enghraifft yng Nghymru o aelodau staff y Byrddau Iechyd yn cael eu rhyddhau i ddysgu Cymraeg er mwyn cynnig gwasanaeth Cymraeg i’w cleifion. Mae’r diwygiad yn adlewyrchu pwysigrwydd trefniadau o’r fath a’r modd y gellid eu hymestyn.

6

Annog y rhai sy'n darparu gwasanaethau i sefydlu a chofnodi'r dewis iaith Gymraeg neu Saesneg a fynegir gan neu ar ran y claf

 

 

Sicrhau bod y rhai sy'n darparu gwasanaethau yn rhoi cynnig rhagweithiol o wasanaethau Cymraeg a sefydlu a chofnodi'r dewis a/neu angen  am iaith Gymraeg a fynegir gan neu ar ran y claf; a throsglwyddo’r wybodaeth honno wrth gyfeirio cleifion ar hyd y llwybr gofal ac at wasanaethau eraill

Dywed Comisiynydd y Gymraeg (2014) fod MNG (LLC 2012) yn gosod ‘seiliau cychwynnol ar gyfer cynnig gwasanaethau yn rhagweithiol. Fodd bynnag nid yw’r camau hyn yn ddigon pellgyrhaeddol nac yn

cynnig arweiniad digonol i’r sector gofal sylfaenol.’  Gyda’r symudiad tuag at integreiddio

darpariaeth gofal sylfaenol a chymunedol, disgwylir y bydd systemau electronig dwyieithog yn eu lle a fydd yn galluogi cofnodi’r cynnig rhagweithiol a gofynion iaith cleifion. Yn y cyfamser, nid yw’r diwygiadau yn cyfyngu darparwyr i’r systemau electronig hyn yn unig.

 

Yn ogystal â’r chwe phwynt uchod, mae’r Gymdeithas yn gryf o’r farn y dylid ychwanegu’r dyletswyddau canlynol, (gweler 7 ac 8 isod) er mwyn annog darparwyr i flaengynllunio o ran recriwtio a dyrannu staff sy’n siarad Cymraeg. Mae cynnal ansawdd gwasanaethau yn hollol ganolog i’r cytundebau. Mae’r diwygiadau yn cydnabod bod unrhyw ymdrech i hwyluso gwasanaethau wyneb yn wyneb yn Gymraeg yn fodd i wella ansawdd y gofal a ddarperir, yn enwedig ar gyfer cleifion bregus.

 

7)      hwyluso gwasanaethau wyneb yn wyneb yn Gymraeg, gan gynnwys mewn derbynfeydd a lleoliadau gwasanaeth eraill;

 

8)      hwyluso cyfarfodydd personol yn Gymraeg, gan gynnwys cyfarfodydd sy’n ymwneud â lles personol.

 

Nodwyd pwysigrwydd eithriadol y ddau gymal uchod gan Aelodau Cynulliad o bob plaid yn eu hadroddiad ar y mater ym mis Mawrth 2018 (Rhif 7)1.

 

Ymhellach, credwn fod angen, yn y cytundeb, rôl swyddogol er mwyn i'r Comisiynydd fonitro a gorfodi'r amodau iaith ynddo, megis drwy gymal sy'n amlinellu rôl ffurfiol yn broses gwyno. Fel arall, rydym yn bryderus ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro sut mae’r ddarpariaeth Gymraeg yn gwella o dan y contract newydd, beth fydd y drefn a pha newidynnau a asesir.

 

I gloi, felly, mae’n fater o bryder a siom i ni, fel mudiad ymgyrchu, nad yw’r dyletswyddau Cymraeg a osodir drwy gontract gyda darparwyr gofal sylfaenol yn gwarchod hawliau iaith a buddiannau cleifion, fel yr argymhellir yn Fy Iaith Fy Iechyd (2014) a Mwy na Geiriau (2016). Rydym yn cydnabod bod yr amserlen yn dynn, ond  rydym yn dadlau’n gryf  bod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru  a phob un o’r cyrff cynrychiadol i ail-ystyried y diwygiadau yn ofalus. Yn anffodus, nid oes unrhyw un ohonom ar gael i fynychu’r sesiwn dystiolaeth ar 6ed Gorffennaf. Er hynny, hyderwn yn fawr y bydd y sylwadau ysgrifenedig hyn  yn dderbyniol i chi a chawn dderbyn eich cefnogaeth.

 

Yn gywir

 

Gwerfyl Roberts

 

Cadeirydd

Grŵp Iechyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

 

1.      http://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld11476/cr-ld11476-w.pdf

 

Atodiad 1

Enghreifftiau o ddiffyg darpariaeth cyfrwng Gymraeg yn y sector gofal sylfaenol

 

Comisiynydd y Gymraeg (2014) Fy Iaith fy iechyd: Ymholiad Comisiynydd y Gymraeg i’r Gymraeg mewn gofal sylfaenol.

 

·         Mae'r mwyafrif helaeth o siaradwyr Cymraeg rhugl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol yn cytuno â'r egwyddorion bod "cael cynnig gwasanaeth Cymraeg yn fater o hawl" ac y dylai fod ganddynt "yr hawl i gyfleu eu hunain yn Gymraeg wrth ddelio â'r gwasanaeth iechyd" (roedd82% a 90% o'r rheini a gyfwelwyd yn cytuno yn y drefn honno)

·         Ond dengys canlyniadau’r ymchwiliad mai Saesneg heb amheuaeth yw prif iaith gwasanaethau gofal sylfaenol i fwyafrif siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Yn ôl yr arolwg, ar gyfartaled, dim ond 28% o brofiadau blaenorol siaradwyr Cymraeg gyda gwasanaethau gofal sylfaenol a gafwyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

·         Ond er bod 28% o gyswllt siaradwyr Cymraeg gyda gwasanaethau gofal sylfaenol yn digwydd yn Gymraeg, dim ond rhwng 3-6% a gafodd gynnig gwasanaeth neu apwyntiad yn Gymraeg. Mae’r ffigurau hyn yn awgrymu bodpotensial gan y gwasanaethau gofal sylfaenol presennol i gau’r bwlch hwn mewn profiad – mae darpariaeth yno y gellir ei chynnig i gleifion

·         Mae’r adroddiad yn nodi astudiaethau achos lle cafodd siaradwyr Cymraeg broblemau gyda gwasanaethau gofal sylfaenol am nad oedd modd cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Fe’u rhennir yn dri maes eang, fel a ganlyn:

 

·         Iaith a’r gydberthynas glinigol lle mae diffyg gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, i rai defnyddwyr gwasanaethau, yn brofiad llai cyfforddus:

 

o   Mae ‘Alwyn’ yn ei 20iau ac mae'n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyda'i frawd. Mae un meddyg sy'n siarad Cymraeg yn ei feddygfa leol ond nid yw'n cael gweld y meddyg hwn yn aml. Mae'n teimlo y gall fod yn fwy agored ar faterion iechyd pan fydd yn siarad Cymraeg a bod cydberthynas gryfach gyda'r meddyg oherwydd y cyswllt iaith. Pe bai'r gwasanaeth drwy'r Gymraeg fe fyddai yn llai ‘strained,’ a byddwn yn gallu agor lan mwy. Gallwn drafod materion yn well oherwydd byddai yno berthynas, hynny yw'r iaith, yno yn barod’. (BIPHDd)

o   Roedd profiad un o gyfranwyr yr ymchwil yn dangos enghraifft lle mae diffyg cwrteisi yn mynd i dir camwahaniaethu yn ogystal ag achosi risg i iechyd a lles unigolyn. Ffoniodd y claf wasanaethau tu allan i oriau’r Meddyg Teulu wedi iddi gael damwain. Pan roddodd ei henw roedd y person ar y ffôn yn meddwl mai enw ffug ydoedd gan nad oedd yn gyfarwydd â’r enw Cymraeg. ‘Wedyn mi ffoniais i’r gwasanaeth - a’r ymateb ges i wedyn oedd o’n ffiaidd, gofyn am enw’r claf, ac mi ddywedais fy enw, a dyma nhw’n dweud sut wyt ti’n sillafu hwn, ac mi sillafais fy enw tair gwaith, ac wedyn ges i ‘that’s not a name, it’s a meaningless jumble of letters’. So dyma fi’n dweud gallai ‘just’ dweud fy llythrennau cyntaf yn lle fy enw - a’r ymateb wedyn - os ‘dach chi ddim yn fodlon rhoi enw i’r claf dydw i ddim yn mynd i boeni’r meddyg.’ (BAIP)

 

·         Iaith a’r ddarpariaeth glinigol lle mae diffyg gwasanaethau (cyson) yn Gymraeg yn effeithio ar y claf, mae’r astudiaethau achos hyn yn ymwneud yn benodol â phobl hŷn, eiddil a phlant ifanc:

o   Mae ‘Sara’ yn ei 40au ac mae'n byw gyda'i gŵr a'i thri o blant yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Cymraeg yw iaith y cartref. Canfuwyd bod angen therapi lleferydd ar ei phlentyn canol. Yn anffodus, nid ydynt wedi gallu dod o hyd i weithiwr iechyd proffesiynol a all roi'r therapi hwn i'w mab yn Gymraeg. Yn y pen draw, penderfynodd mai'r unig opsiwn oedd iddi hi gyflwyno’r therapi gan ddefnyddio'r deunyddiau cymorth gan y therapydd di-Gymraeg. Os oedd y plentyn yn cael trafferth â’i leferydd yn ei iaith gyntaf, yna nid oedd ceisio rhoi therapi mewn ail iaith yn gwneud synnwyr iddi. ‘Neb ar gael, ‘so’ yn y pendraw penderfynon ni, [hi a’i gŵr], a finnau mai fi oedd yn mynd i wneud y gwaith adre … achos os ydi’r plant efo anhawster siarad trwy gyfrwng y Gymraeg sut ar y ddaear maen nhw’n mynd i ymdopi i gael y lleferydd drwy gyfrwng y Saesneg?’ (BAIP)

o   Mae ‘Lucie’ yn byw o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae'n cofio'r profiad o fynd â'i phlant ifanc at y deintydd, lle nad oedd unrhyw aelod o staff yn siarad Cymraeg. Yn ystod ymweliad cyntaf ei merch, ynghyd â’i brawd hŷn, roedd y plentyn yn gafael yn dynn ynddi. Roedd yn anodd i'r fam geisio egluro yn Gymraeg beth oedd yn digwydd wrth geisio cysuro'r plentyn ar yr un pryd. Er enghraifft, gwrthododd y plentyn ieuengaf eistedd yn y gadair am ei bod yn nerfus a ‘doedd hi ddim yn deall o gwbl’. ‘Frustrating’, ...bydde hi wedi bod yn ddwy a hanner, a thro cyntaf iddi hi fynd at y deintydd ac oedd hi’n glynu wrtha i, roedd Iolo yn y gadair yn eitha’ nerfus ac wedyn o’n i’n treial gwneud yn siŵr fod e’n deall beth oedd e fod ‘neud, felly oedd e’n eitha’ ‘stressful’’. (BIPHDd)

o   Mae ‘Wil’ yn byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda'i wraig, a'i fam yng nghyfraith fregus. Anfonwyd gweithiwr iechyd proffesiynol nad yw'n siarad Cymraeg i asesu'r wraig oedrannus oedd â nifer o broblemau iechyd. Nid oedd y wraig wedi arfer siarad Saesneg, a bu raid iddi frwydro i ddeall beth oedd yn cael ei drafod. Roedd yn meddwl eu bod yn trafod ei symud i gartref nyrsio gan na allai ddeall yr hyn oedd yn cael ei ddweud. Roedd y mab yng nghyfraith hefyd yn ddig oherwydd y bu'n rhaid iddo lenwi holiadur hir (yn Saesneg) mewn perthynas â'r asesiad. Yn y pen draw, penderfynodd beidio â chwblhau'r holiadur, a fyddai wedi arwain at gael help ariannol i fodloni gofynion ei fam yng nghyfraith. Ers yr ymweliad, mae ei fam yng nghyfraith yn dal i feddwl ei bod am gael ei symud pryd bynnag y bydd yn gweld pobl yn dod i'r tŷ. Mae Wil yn credu'n gryf, pe byddai'r apwyntiad wedi bod yn Gymraeg, y byddai ei fam yng nghyfraith wedi teimlo’n llawer mwy cartrefol ac wedi gallu deall yr hyn oedd yn digwydd. ‘Oedd hi ar goll doedd? Dw i’n teimlo y dyla rhywun sy’n dod i weld person naw deg, siarad Cymraeg ‘de’. (BIPBC)

 

·         Asesiad a diagnosis ieithyddol lle mae siaradwyr Cymraeg o’r farn bod diffyg gwasanaeth yn Gymraeg yn effeithio ar y canlyniad i’r claf:

 

o   Mae ‘Carys’ yn byw gyda'i gŵr, a'u dau fab yn eu harddegau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bu'n rhaid i'w mam ymweld â'r meddyg teulu i gael prawf dementia. Fodd bynnag, cynhaliwyd y prawf yn Saesneg. ‘ac mi oedd y profion i gyd yn uniaith Saesneg, ac oedan nhw’n gofyn petha eitha’ cymhleth’. I waethygu'r sefyllfa i'w mam sy'n siarad Cymraeg, nid oedd yr un o'r meddygon yn siarad Cymraeg, a phan fu'n rhaid iddi geisio meddwl yn Saesneg, dechreuodd ddrysu. ‘Oedd ‘na un prawf er enghraifft oedd ‘na luniau ac oedd hi’n gorfod dweud be oedd be ‘lly, ac oedd rhaid i mrawd a finna ada’l y stafall, a ddaethon ni nôl ag oedd hi’n ‘agitated’ i gyd dach chi’n gwybod, oedd hi wedi ypsetio achos oedd hi methu meddwl… achos y ffaith bod hi’n meddwl yn Saesneg’. (BIPBC). Mae Carys o'r farn, pe byddai'r prawf wedi bod yn Gymraeg, y byddai ei mam wedi ymateb yn well, ac y byddai wedi bod yn dawelach ei meddwl. Ar un adeg, dim ond y gair Cymraeg am 'delyn' y gallai ei mam ei gofio pan ofynnwyd iddi enwi nifer o ddelweddau, a dywedwyd wrthi ei bod yn anghywir. Roedd hynny’n gofidio ei mam yn fawr. ‘Mamiaith Cymraeg ydi hi, ond bod y prawf yn Saesneg a bod hi’n gor’od dweud y gair Saesneg, oedd ‘na un enghraifft lle oedd hi ‘di methu meddwl am y gair Saesneg am telyn ‘de, bechod, oedd hi wedi dweud ‘telyn’ ac oedd y ddynes ‘di dweud ‘no’ ynde, ac oedd mam yn gwybod mai telyn oedd y llun ‘na - ac oedd hi’n methu meddwl am y gair Saesneg - a gan bod y ddynes ‘ma’n uniaith Saesneg - chi’n gwybod? Oedd hynna’n ‘ypset’ iddi hi… y peth cynta’ ddudodd hi ar ôl i ni ddod yn ôl oedd ‘be ydi telyn yn Saesneg?’ (BIPBC)

o   Mae ‘Siân’ yn ei 30au ac mae'n byw gyda'i gŵr a'u dau o blant bach, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Roedd gan fab teirblwydd oed Siân apwyntiad i weld yr ymwelydd iechyd yn y clinig lleol i weld ei ddatblygiad cyffredinol. Nid oedd yr ymwelydd iechyd yn siarad Cymraeg ond nid oedd ei mab yn siarad llawer o Saesneg. ‘Ac oedd hi’n gofyn iddo fe adeiladu pethe, ‘neud jig-so, g’neu lluniau, ac oedd hi’n siarad Saesneg, a doedd hi ddim yn siarad Cymraeg.’ (BIPCTBIPCT) Roedd Siân yn teimlo'n siomedig ac yn ddig na allai weld ymwelydd iechyd Cymraeg, ‘o’n i reit siomedig, achos doedd hi methu gweld ‘true reflection’’. Roedd hefyd yn teimlo'n ddig am fod rhaid iddi gyfieithu popeth i'w mab; nid oedd hyn yn addas ar gyfer rhyngweithio anffurfiol rhwng y gweithiwr a'r plentyn. Nid yw'r plentyn yn clywed llawer o Saesneg yn ei fywyd. Mae o'r farn, pe byddai'r rhyngweithiadau wedi bod yn gyfan gwbl yn Gymraeg, y byddai'r ymwelydd iechyd wedi gallu cael darlun cywirach o ddatblygiad y bachgen a byddai hynny wedi cael ei adlewyrchu yng nghanlyniadau ei brofion. ‘Dw i’n siŵr y basa Gruff wedi dod allan yn well yn y prawf, dw i’n siŵr fod marcie fe wedi bod yn llai na be ddyle fe fod - ac yn ‘true reflection’ o’i ddatblygiad o’. (BIPCTBIPCT)

 

Owen H a Morris (2012) Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg. Gwerddon

 

·         Mae gwaith diweddar Owen a Morris yn astudiaeth feintiol i wasanaeth adsefydlu a ddarperir gan dimau cymunedol i gefnogi pobl yn eu cartrefi. Dônt i’r casgliad: ‘...nad yw cleifion Cymraeg yn derbyn yr un budd o’r adsefydlu os nad yw aelodau’r tîm adsefydlu yn medru’r Gymraeg.’ Maent yn awgrymu bod: ‘effeithiolrwydd a deilliannau therapi yn cael eu dylanwadu gan ddefnydd ieithyddol. Yr oedd deilliannau therapi siaradwyr Cymraeg yn sylweddol is na deilliannau therapi siaradwyr di-Gymraeg pan gâi’r therapi ei ddarparu gan therapyddion a thîm di-Gymraeg.’1

 

Yn sgil canlyniadau’r ymchwiliad, awgrymodd y Comisiynydd (2014) mae gwasanaeth o ansawdd i siaradwyr Cymraeg yw un sydd:

 

·         yn weledol ddwyieithog (â hunaniaeth ddwyieithog gyda deunydd ac arwyddion dwyieithog)

·         yn darparu gwybodaeth glir i gleifion am y gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael

·         yn ymwybodol o ba staff sydd ganddo a all ddarparu gwasanaeth Cymraeg neu ddwyieithog a phryd

·         â threfniadau mewn lle i ymateb i’r angen am wasanaeth Cymraeg neu ddwyieithog drwy drefnu staff a thrwy gynllunio a recriwtio bwriadus

·         â staff di-Gymraeg sy’n meddu ar sgiliau a gwybodaeth i ddarparu gwasanaeth sy’n ieithyddol sensitif (ynganu enwau yn gywir; cyfarchiad dwyieithog; cydnabod hunaniaeth ac yn effro i anghenion iaith)

·         â staff sy’n gwybod pan nad ydynt yn gymwys i ddarparu gwasanaeth i berson Cymraeg ei iaith a’r angen i gyfeirio’r achos ymlaen

·         wedi adnabod risgiau sy’n gysylltiedig â methu â darparu gwasanaeth Cymraeg i’r claf (ee. o ran cydsyniad; asesiadau a diagnosis) ac wedi rhoi mesurau mewn lle i ddelio â risgiau o’r fath

·         yn cofnodi pa iaith sydd orau gan y claf gyfathrebu ynddi ac yn rhannu’r wybodaeth hon gyda’r tîm iechyd o amgylch y claf

·         yn cynnig gwasanaethau Cymraeg neu ddwyieithog yn rhagweithiol.