Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Cefnogi a hybu’r Gymraeg: Ymchwiliad i'r cyd-destun deddfwriaethol, polisi ac ehangach

 

Ymateb i’r ymgynghoriad gan Yr Athro R. Gwynedd Parry,

Academi Hywel Teifi

Prifysgol Abertawe.

 

 

1.      Cyflwynir yma rai sylwadau cryno mewn ymateb i’r ymgynghoriad gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar lwyddiant y fframwaith deddfwriaethol o safbwynt y Gymraeg. Gofynnir am dystiolaeth neu sylwadau a fydd o gymorth wrth asesu llwyddiannau a chyfyngiadau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, gan gynnwys effaith ac effeithiolrwydd safonau’r Gymraeg wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

2.      Nid peth hawdd yw gosod y safonau yn y glorian a hwythau yn eu babandod. Er i’r ddeddf a genhedlodd y safonau dderbyn bendith frenhinol ar ddechrau 2011, hir fu’r beichiogrwydd o ran y llunio, yr ymgynghori a chymeradwyo’r cynnwys, cyn geni’r safonau cyntaf. Ychydig dros ddwy flynedd sydd wedi mynd heibio ers i’r safonau cyntaf ddod yn weithredol, ac y mae’r gwaith o lunio a gosod safonau ar gyfer yr holl sectorau yn parhau i fynd rhagddo. Nid fy mod yn awgrymu fod yr amser i gloriannu yn gynamserol. Ond rhaid cofio mai cropian mae’r safonau o hyd.

3.      Er hyn, credaf fod sail i gredu fod y safonau, neu gallant fod, yn gyfrwng i ddylanwadu ar arferion ieithyddol, ac o greu cyfleoedd newydd i ddefnyddio’r iaith. Daeth y safonau, oherwydd eu natur a’u ffurf, yn dasgau a thargedau i’r sefydliadau sydd o dan awdurdodaeth y safonau. Er mwyn cydymffurfio â’r safonau, a darparu’r gwasanaethau a ddisgwylid, bu’n rhaid i nifer o sefydliadau fuddsoddi mewn adnoddau (megis arwyddion/cyhoeddiadau dwyieithog), cyflogi pobl sydd yn siarad Cymraeg (i ateb y ffôn yn Gymraeg, er enghraifft), ac addasu eu gweithdrefnau (sicrhau cyfieithwyr mewn cyfarfodydd neu gyfieithu papurau i’r Gymraeg, er enghraifft). Am y tro cyntaf i rai sefydliadau, daeth y Gymraeg yn bwnc y bu’n rhaid ei gymryd o ddifri. Ac er bod y broses o osod y safonau wedi bod yn hir a llafurus, y mae’r safonau wedi ysgogi ymateb a newid sefydliadol mewn rhai amgylchiadau.

4.      Yn y drafodaeth gyhoeddus ar y drefn sydd ohoni a gafwyd yn ddiweddar, clywyd lleisiau’n mynnu bod gormod o bwyslais ar reoleiddio ar draul hyrwyddo. Dywedwyd fod hyrwyddo’r Gymraeg yn dasg a esgeuluswyd, a bod gormod o adnoddau ac egni wedi eu treulio ar y gwaith o reoleiddio. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bwriad i ddiwygio’r ddeddf er mwyn cael, fel y dywedwyd, gwell cydbwysedd rhwng rheoleiddio a hyrwyddo, gan mai dyna, yn ôl y sôn, fyddai’n cynyddu’r nifer o siaradwyr ac yn diogelu dyfodol yr iaith. Efallai’n wir. Er hynny, a chan dynnu ychydig ar gefndir cyfreithiol proffesiynol, credaf fod angen gofal rhag dibrisio gwerth rheoleiddio pwrpasol.

5.      Roedd sefydlu'r mecanwaith safonau ynghyd â swydd y Comisiynydd fel rheoleiddiwr a chanddi sancsiynau cyfreithiol lle ceid methiant â chydymffurfio, yn torri tir newydd. Honnwyd y gallai safonau fod yn gyfrwng i greu hawliau iaith, rhywbeth y galwyd amdano’n groch ar hyd y blynyddoedd. Roedd disgwyl y byddai’r rheoleiddio, trwy safonau, yn creu hawliau, ac yn ffurf o hybu a hyrwyddo ar yr un pryd, gan hybu newid ymddygiad a newid agweddau tuag at y Gymraeg. Droeon, fe bwysleisiwyd yr angen am newid diwylliant ieithyddol cyn y ceid cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg. Yr oedd y safonau i weithredu fel arfau a fyddai’n hybu’r newid angenrheidiol mewn agweddau cymdeithasol ac arferion sefydliadol, a thrwy hynny yn grymuso siaradwyr yr iaith wrth iddynt fynnu ei defnyddio.

6.      Gellir gor-bwysleisio'r gwahaniaeth rhwng hybu a rheoleiddio, gan mai ffurf o hybu yw rheoleiddio. Antithesis ffug yw’r un sydd yn gosod hyrwyddo a rheoleiddio yn erbyn ei gilydd. Ac nid yw hybu neu hyrwyddo, yn absenoldeb elfen o reoleiddio, yn debygol o fod yn effeithiol lle mae elfen o wrthwynebiad neu gyndynrwydd i newid ymddygiad, neu hen arferion ac agweddau negyddol tuag at yr iaith yn hirymaros. Gall y gwrthwynebiad fod yn agored ar adegau, ond, yn amlach na pheidio, y mae’n gynnil a chyfrwys. Y mae yna lawer o ewyllys da tuag at y Gymraeg, yn sicr, ond y mae yna lawer o wrthwynebiad tawel iddi hefyd. Gall ewyllys da olygu cefnogaeth iach neu oddefgarwch cyndyn. Y mae’r profiad gyda deddfwriaeth cydraddoldeb (ar sail hil, anabledd, rhywioldeb, ac yn y blaen) yn dangos fod angen grym y ddeddf i newid agweddau a rhagfarnau, neu, os nad eu newid, i’w gwneud yn esgymun mewn cymdeithas.

7.      Bwriad Llywodraeth Cymru yw ymddiried y gwaith o reoleiddio, o safbwynt gorfodi cydymffurfiaeth â'r safonau yn ogystal â hyrwyddo, yng ngofal Comisiwn. Cafwyd astudiaeth ysgolheigaidd yn dadansoddi’r gwendidau gyda threfn bresennol y Comisiynydd.[1] O safbwynt gorfodi cydymffurfiaeth âsafonau, yn y pen draw, yr hyn sydd yn bwysig yw bod siaradwyr y Gymraeg yn deall y drefn a’u hawliau lle ceir, er enghraifft, ymyrraeth â’u hawliau/rhyddid ieithyddol, neu fethiant i weithredu’r  safonau. Eglurder y drefn, ei hygrededd, ei hannibyniaeth, cymhwysedd y rheoleiddiwr, tryloywder ac atebolrwydd y broses, dyna’r rhinweddau pwysicaf mewn cyfundrefn rheoleiddio.

8.      Y mae’r  mwyafrif y safonau yn ymwneud â gwasanaethau, sef derbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Rhestrir y gwasanaethau penodol y disgwylir eu derbyn yn y Gymraeg yn y safonau. Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyfyngu’r safonau i faes gwasanaethau, gan ail-frandio’r dyletswyddau corfforaethol eraill sy'n rhan o’r system safonau ar hyn o bryd yn “ddyletswyddau cynllunio ieithyddol”. Er hyn, mae’n deg gofyn a yw “gwasanaethau” ynddynt eu hunain yn cwmpasu holl weithgareddau, neu hyd yn oed brif weithgareddau’r sefydliadau, ac a yw’r pwyslais ar safonau fel “gwasanaethau” yn debygol o newid diwylliant ac ymddygiad sefydliadol tuag at y Gymraeg? A yw’r pwyslais ar safonau cyflenwi gwasanaeth yn creu’r amgylchiadau lle gall y Gymraeg ddod yn rhan hanfodol o fywyd a diwylliant sefydliadau, a thrwy hynny greu’r gweithle dwyieithog?

9.      Os ydym am weld newid sylfaenol yn niwylliant ieithyddol ein sefydliadau, rhaid i’r safonau ddylanwadu ar yr hyn yw eu pennaf swyddogaeth, neu fusnes creiddiol. Hoffwn egluro hyn ymhellach drwy gyfeirio at esiampl benodol sydd yn agos iawn at fy nghalon, sef addysg uwch. Gan fod safonau ar gyfer sefydliadau addysg uwch bellach wedi eu gosod (daethant i rym yn hanner cyntaf y flwyddyn hon), y mae’n werth nodi rhai pwyntiau yn y cyd-destun hwnnw, hyd yn oed ar sail profiad rhai misoedd yn unig.

10.  Beth yw priod waith prifysgol? Byddai llawer o hyd yn dweud mai addysg, ymchwil a ffurfiau eraill o ysgolheictod yw prif swyddogaethau’r academi (safbwynt hen-ffasiwn, yn ysbryd diffiniad Newman, i rai mae’n siŵr). Ym mha fodd y mae’r safonau sydd yn berthnasol i sefydliadau addysg uwch yn sicrhau bod y Gymraeg yn gyfrwng addysg, ymchwil ac ysgolheictod?

11.  O fwrw golwg ar y rhestr hir o safonau, gwelir fod rhai safonau yn ceisio mynd at graidd y bywyd academaidd.[2] Y mae’r mwyafrif ohonynt yn safonau cyflenwi gwasanaethau. Er enghraifft, y mae safonau 88 ac 89 yn ymwneud â chyfleoedd dysgu sy’n agored i’r cyhoedd ac yn gofyn iddynt gael eu cynnig yn Gymraeg. Y mae safonau 90 a 90A yn rhoi’r hawl i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig, fel rhan o asesiad neu arholiad, yn Gymraeg, ac yn atal sefydliadau rhag trin y gwaith a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na’r gwaith ysgrifenedig a gyflwynir yn Saesneg. Mae safonau 92 a 92A yn caniatáu i’r myfyrwyr fynegi dewis am lety (neu ran o lety) a gaiff ei neilltuo ar gyfer siaradwyr Cymraeg, ac yn gofyn i sefydliadau hybu’r dewis hwnnw. Ac y mae safon 93 yn sicrhau’r hawl i diwtor personol sy’n siarad Cymraeg.

12.  Yna, o dan restr y safonau llunio polisi, y mae safon 104 fel petai yn dod a ni yn agos at weithgarwch academaidd. Serch hynny, braidd yn amwys yw’r geiriad, ac nid yw hi’n glir a yw’r gofynion yn y safon yn creu cyfleoedd i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu beidio. Beth yn union yw’r gofyniad i “ystyried” effaith ar y Gymraeg wrth lunio neu addasu cwrs? Dyma atgynhyrchu’r safon yn union fel y mae:

 

Pan fyddwch yn datblygu neu’n addasu cwrs (neu unrhyw gydran o gwrs), rhaid ichi ystyried—

 

(a) pa effeithiau, os o gwbl (a pha un a yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol), y byddai’r cwrs hwnnw yn eu cael ar—

(i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;

 

(b) sut y byddai’r cwrs hwnnw yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—

(i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;

 

(c) sut na fyddai’r cwrs hwnnw yn cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol ar—

(i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a

(ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

13.  Dyma safonau sydd yn berthnasol i bwrpas a swyddogaeth ein prifysgolion, sef bywyd academaidd. Ond, ac oni bai fy mod yn camddehongli safon 104, nid oes yna unrhyw safon sydd yn rhoi’r hawl i addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Y mae strategaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn seiliedig ar yr egwyddor fod yna, o’i ddyfynnu, “yr hawl i addysg uwch Cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf”. Ond nid yw’r hawl yn cael ei chadarnhau mewn safon o dan y Mesur. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gorff sydd yn hyrwyddo darpariaeth cyfrwng-Cymraeg yn ein sefydliadau addysg uwch. Ni welwyd erioed y fath gynllunio a phwyllgora, hybu, marchnata a hyrwyddo o safbwynt y Gymraeg fel iaith ysgolheictod. Tybed, petai yna safon iaith yn datgan yr hawl i addysg uwch yn y Gymraeg, a fyddai awdurdod y ddeddf yn gefn i waith ac uchelgais y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn creu’r cydbwysedd iawn rhwng hyrwyddo a rheoleiddio yng nghyd-destun cenhadaeth a gwaith y Coleg? 

14.  Gwahoddir sylwadau ar y persbectif rhyngwladol. Cymharer, felly, y sefyllfa yng Nghymru gyda’r sefyllfa yng Ngwlad y Basg. Y mae Erthygl 15, Deddf yr Iaith Fasgeg 1982 yn rhoi hawl cyfreithiol i dderbyn addysg ar bob lefel yn y Fasgeg a’r Sbaeneg, gan gynnwys addysg uwch. Sefydlwyd Prifysgol Gwlad y Basg yn 1980 i weithredu’r hawl i addysg uwch yn yr iaith Fasgeg. Arweiniodd hynny at gynnydd sylweddol mewn darpariaeth addysgol yn yr iaith, yn nifer y darlithwyr a fedrai’r iaith fel cyfrwng addysg uwch, ac mewn polisïau sefydliadol a roddai ystyriaeth i anghenion yr iaith wrth gyllido a chynllunio. Y gyfraith, a’i holl awdurdod, sydd wedi grymuso’r iaith Fasgeg fel iaith ysgolheictod.[3]

15.  Tra ein bod yn cymryd ystyriaeth o’r sefyllfa ryngwladol, y mae’n werth nodi arwyddocâd Siartr Ewrop ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol i’r pwnc yma hefyd. Nid awn yma i berfedd yr offeryn sylweddol hwn a’i holl ddarpariaethau, a rhaid bodloni ar grynodeb.[4] 

 

16.  Arwyddwyd y Siartr gan y Deyrnas Unedig ar 27 Mawrth 2001, ac y mae’r Gymraeg yn un o’r ieithoedd a gaiff ei gwarchod ganddi. Mae’r Siartr yn hybu hawliau ieithyddol ac yn gosod mesurau er budd ieithoedd lleiafrifol.[5] Mae’n creu fframwaith normadol yn seiliedig ar yr egwyddor fod yr hawl i ddefnyddio iaith ranbarthol neu leiafrifol mewn bywyd cyhoeddus a phreifat yn hawl ddiymwad sy’n cydymffurfio â’r egwyddorion a ymgorfforir yng Nghyfamod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol, ac yn ôl ysbryd Confensiwn Cyngor Ewrop ar gyfer Gwarchod Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol.[6]

 

17.  Mae Rhan III y Siartr yn rhestru mesurau penodol y gall gwladwriaethau ymrwymo iddynt a’u gweithredu i hyrwyddo'r iaith/ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol. Mae Erthyglau 8 i 14 yn rhoi manylion y mesurau ym meysydd addysg, y gyfraith, gweinyddiaeth gyhoeddus, diwylliant, y cyfryngau a bywyd economaidd a chymdeithasol. Ac os nad yw’r Siartr yn creu rhwymedigaethau cyfreithiol gweithredadwy, mae ganddi rym gwleidyddol fel cytundeb rhyngwladol.

 

  1. Mae Erthygl 8 y Siartr yn ymwneud ag addysg. Ceir restr o’r ymrwymiadau posibl o fewn y maes, o addysg feithrin hyd at addysg i oedolion, er mwyn hyrwyddo addysg yn yr iaith ranbarthol neu leiafrifol. Yn ôl geiriad Erthygl 8.1:

 

8.1.      O ran addysg, mae’r Cyfranogwyr yn ymrwymo, o fewn y diriogaeth lle mae ieithoedd o’r fath yn cael eu defnyddio, yn unol â sefyllfa pob un o’r ieithoedd hynny, a heb ragfarnu yn erbyn dysgu iaith (ieithoedd) swyddogol y wladwriaeth ...

 

Yna, o droi at baragraff e., mae yna dri is-baragraff, a dylid dewis un ohonynt fel ymrwymiad:

 

i.                         i sicrhau bod addysg prifysgol neu addysg uwch arall ar gael yn yr ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol perthnasol; neu

 

ii.                       i ddarparu cyfleusterau ar gyfer astudio’r ieithoedd hynny fel pynciau prifysgol ac addysg uwch; neu

 

iii.                    os na ellir cymhwyso is-baragraffau i. a ii. oherwydd swyddogaeth y Wladwriaeth mewn perthynas â sefydliadau addysg uwch, i annog a/neu ganiatáu i addysg prifysgol neu ffurfiau eraill ar addysg uwch gael eu darparu mewn ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol neu i gyfleusterau gael eu darparu ar gyfer astudio’r ieithoedd yma fel pynciau prifysgol neu addysg uwch.

 

  1. Mae paragraff 8.1.e. yn ymwneud â darpariaeth addysg prifysgol trwy gyfrwng yr iaith leiafrifol yn ogystal ag astudio’r iaith leiafrifol fel pwnc ynddo’i hun. Mae darpariaethau eraill o fewn y Siartr sy’n ymwneud â’r olaf hefyd, fel Erthygl 7, Adran 7, paragraffau 1.f ac 1.g, sy’n ymwneud â dysgu ac astudio iaith ranbarthol neu leiafrifol, ac astudiaeth ac ymchwil ar ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol mewn prifysgolion. Yr hyn sydd fwyaf perthnasol yma yw'r Gymraeg fel cyfrwng addysg mewn pynciau prifysgol eraill.  Felly, Erthygl 8.1.e, paragraffau i a iii. (hynny yw, rhan gyntaf paragraff iii), sydd yn fwyaf perthnasol i’r hyn sydd o dan sylw yma.

 

  1. Mae Erthygl 8 yn hyrwyddo egwyddor bwysig, sef y dylai addysg uwch fod ar gael mewn iaith leiafrifol.  Mae’r safonau iaith yn ymdebygu i erthyglau’r Siartr o ran y rhestr o gamau ymarferol a geir ynddynt. Mae Adroddiad Esboniadol y Siartr hefyd yn ymwneud â gweithredu ymarferol. Er enghraifft, o ran addysg, mae'n gofyn i wladwriaethau'n “sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael parthed cyllid, staff a deunyddiau dysgu”.[7]

 

  1. Parthed addysg uwch a’r Gymraeg, y mae’r DU wedi mabwysiadu paragraff 8.1.e.iii fel yr ymrwymiad yn y maes hwn, yn hytrach na pharagraff 8.1.e.i.[8] Yn ôl un sylwebydd blaenllaw, y mae’r ymrwymiad ym mharagraff e.iii. yn briodol mewn sefyllfa lle nad yw’r wladwriaeth yn penderfynu polisi iaith ei phrifysgolion, megis gyda phrifysgolion preifat.[9] Felly, yn yr achosion hynny, math o anogaeth yw’r cyfan y gellir ei ddisgwyl.

 

  1. Mae hyn yn codi nifer o gwestiynau. A yw ymrwymiad presennol y DU yn briodol a digonol?[10] Ac onid oes cysylltiad rhwng yr amharodrwydd i ymrwymo i’r ddarpariaeth sydd yn Erthygl 8.1.e.i y Siartr, gan sicrhau bod addysg uwch ar gael yn y Gymraeg, ac absenoldeb unrhyw safon i’r perwyl hwnnw dan Fesur y Gymraeg 2011? Cyd-ddigwyddiad, efallai, ond yr un yw’r canlyniad, sef nad oes yna unrhyw offeryn cyfreithiol neu ymrwymiad ffurfiol mewn cytundeb rhyngwladol i atgyfnerthu’r hawl i addysg uwch Cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf”.

 

  1. Cyflwynir hyn oll fel moeswers, neu o leiaf fel enghraifft o derfynau’r fframwaith rheoleiddio fel y mae. Peidier neb a llaesu dwylo. Nid yw’r safonau iaith, mwy nag yw offerynnau rhyngwladol, yn creu hawl i addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Camgymeriad, felly, fyddai rhagdybio fod y fframwaith rheoleiddio bellach yn gyflawn ac y gellir troi golygon yn llwyr at y gwaith o hyrwyddo. Y mae angen cynyddu’r safonau, nid eu lleihau. Os yw’r safonau gorfodol bellach i’w cyfyngu i gyflenwi gwasanaethau yn unig, yn ôl bwriad Llywodraeth Cymru, a fyddai hynny’n atal y posibilrwydd o greu safon iaith a fyddai’n gwarantu’r “hawl i addysg uwch Cyfrwng Cymraeg (o’r radd flaenaf)”?

 

  1. Heb safon, heb hawl, heb rym y gyfraith, mae’n annhebygol y bydd yna newid diwylliant ieithyddol gwirioneddol, er gwaethaf holl waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn sefydliadau addysg uwch Cymru. Tybed beth fyddai’n digwydd petai yna hawl, wedi ei hatgyfnerthu gan safon o dan y ddeddf, a/neu ymrwymiad o dan y cytundeb rhyngwladol, i addysg uwch cyfrwng Cymraeg? Mentraf awgrymu y byddai polisïau penodi'r sefydliadau addysg uwch yn gorfod cymryd ystyriaeth fanylach o allu ieithyddol ymgeiswyr, ac o gapasiti dwyieithog eu gweithlu. O ganlyniad, byddai cynnydd sylweddol mewn darlithwyr sydd yn medru dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gwneud hynny fel rhan o’u priod waith. Byddai’r sefydliadau yn cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau dwyieithrwydd y gweithlu academaidd, ac yn cynllunio ar ei gyfer, nid ar sail yr angen i ystyried neu gadw mewn cof, ond er mwyn cyrraedd y safon ddeddfwriaethol.

 

  1. Byddai agweddau tuag at ysgolheictod, ymchwil a chyhoeddi trwy gyfrwng y Gymraeg mewn pynciau ac eithrio’r Gymraeg yn newid hefyd. Byddai cyhoeddi yn Gymraeg yn arferiad derbyniol, angenrheidiol hyd yn oed, a cheid cynnydd mewn llyfrau a fyddai’n adnoddau pwysig yn y dosbarth. O ganlyniad, mae’n bosibl y byddai yna gynnydd sylweddol yn y cyhoeddiadau cyfrwng-Cymraeg a gyflwynid i’r REF. Ac o dipyn i beth, byddai agweddau sefydliadol tuag at y Gymraeg, y diwylliant ieithyddol hwnnw y soniwyd amdano, hefyd yn newid.


[1] Yn benodol, gweler Diarmait Mac Giolla Chriost, The Welsh Language Commissioner in Context: Roles, Methods and Relationships (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2016).

[2]Rheoliadau Safonau’r Gymraeg(Rhif 6) 2017.

[3] Gweler, ymhellach, sylwadau Xabier Arzoz, “Basque-medium Legal Education in the Basque Country” yn Xabier Arzoz (gol.) Bilingual Higher Education in the Legal Context: Group Rights, State Policies and Globalisation (Leiden: Martinus Nijhoff, 2012), tt. 135-166; Gweler Xabier Arzoz, “Making a Minority Language a Higher Education Language: the Teaching of Law through the Basque Language” yn in Emőd Veress (ed.) Multilingualism and Law (Cluj-Napoca: Sapientia University Publishing, 2016), pp. 67-92.

[4] Rwyf wedi trafod gwahanol agweddau ohoni yn y gorffennol. Er enghraifft: R. Gwynedd Parry, “History, Human Rights and Multilingual Citizenship: Conceptualising the European Charter for Regional or Minority Languages”. (2010) 61 Northern Ireland Legal Quarterly 329-348; R. Gwynedd Parry, “Article 4 – Existing Regimes of Protection” and “Article 5 – Existing Obligations”, in Alba Nogueira, Eduardo J. Ruiz Vieytez and Iñigo Urrutia (eds.), Shaping Language Rights: a Commentary on the European Charter for Regional or Minority Languages in light of the Committee of Experts' evaluation (Strasbourg: Council of Europe Publishing, 2012), pp. 145-172.

[5] Siartr Ewrop ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol:

https://www.coe.int/en/web/conventions/full-list/-/conventions/treaty/148

[6] ibid., Rhagymadrodd

[7] Gweler Adroddiad Esboniadol y Siartr, paragraff 87.

[8] Dyma’r hyn a nodir yn ffurfiol ar wefan Cyngor Ewrop: https://www.coe.int/en/web/conventions/full-list/-/conventions/treaty/148/declarations?p_auth=adpW1NPl

[9] Gweler Jean-Marie Woehrling, The European Charter for Regional of Minority Languages: A Critical Commentary (Strasbourg: Council of Europe Publishing, 2005), tt. 154-55.

[10] Gweler R. Gwynedd Parry, Cymru’r Gyfraith: Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2012), tt. 129-134.